Gallwch ddefnyddio'r System Hunangofrestru i wneud dau beth:
- cofrestru ar gyfer tocyn darllenydd cyn ymweld â Llyfrgell Genedlaethol Cymru;
- cofrestru er mwyn cael mynediad o bell at holl adnoddau electronig y Llyfrgell a ddarperir trwy Shibboleth, ar yr amod eich bod yn byw yng Nghymru ac â chôd post yng Nghymru.
Yn anffodus, ni fyddwch yn medru cofrestru er mwyn cael mynediad at holl adnoddau electronig y Llyfrgell os nad oes gennych gyfeiriad cartref yng Nghymru.